Diolch am ddangos diddordeb mewn cynnig cyfle i un o raddedigion y Brifysgol Agored yng Nghymru fel rhan o’r prosiect GROW.Ariennir y rhaglen GROW gan Lywodraeth Cymru, trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac mae'n cefnogi unigolion a raddiodd yn ystod y pandemig, i gael profiad gwaith i helpu'r trawsnewidiad i gyflogaeth mewn amgylchedd gwaith mwy cystadleuol.Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i drefnu lleoliadau gwaith gyda thâl (wedi’i ariannu) i raddedigion. Mae graddedigion y Brifysgol Agored yng Nghymru yn amrywiol ac unigryw ac yn cynnig sgiliau a phrofiad gwerthfawr. Oherwydd eu bod yn aml yn cydbwyso eu hastudiaethau ag ymrwymiadau eraill gan gynnwys gwaith, maent yn aml wedi datblygu sgiliau rheoli amser, hyblygrwydd ac ymrwymiad.Rydym yn awyddus i gynnig ystod eang o leoliadau profiad gwaith i’n graddedigion, rhai rhithwir ac yn y gweithle. Rydym hefyd yn croesawu cyfleoedd sy’n hyblyg o ran oriau gwaith a hyd y lleoliad. Fel cyflogwr mae hyn hefyd yn eich galluogi i gael mwy o hyblygrwydd wrth gymhwyso'r lleoliadau gwaith hyn i'ch gofynion busnes.Llenwch y ffurflen er mwyn i ni asesu addasrwydd eich sefydliad i gymryd rhan.
A yw eich sefydliad yn: Y Sector Preifat Y Sector Cyhoeddus Y Trydydd Sector
A yw eich sefydliad yn fenter gymdeithasol? Ydy Nac ydy
Sut allai un o raddedigion y Brifysgol Agored yng Nghymru fod o fudd i’ch sefydliad? Pa weithgareddau ydych yn rhagweld y bydd y myfyriwr graddedig yn eu cyflawni neu pa rôl ydych yn rhagweld y bydd ganddi hi/ganddo ef?
Gallaf gadarnhau bod y sefydliad wedi’i gofrestru ac wedi’i leoli yn y DU Gallaf Na
A oes gan eich sefydliad bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y gallai GROW ei weld yn nes ymlaen? Oes Na
Sut clywsoch chi am y prosiect GROW? Sut clywsoch chi am y prosiect GROW? Cyswllt gan brosiect GROW Cyswllt arall gan y Brifysgol Agored yng Nghymru Gwefan Y cyfryngau cymdeithasol Argymhelliad personol gan rywun Arall